Rydym yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau tân
drwy’r
wlad yn cael eu gwarchod rhag toriadau llym yn y gyllideb, a
fyddai, yn anochel, yn effeithio ar y gwasanaeth ac ar amseroedd
ymateb.
Gwybodaeth ychwanegol:
Oherwydd toriadau llym yn y
gyllideb gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth leol, mae awdurdodau
tân yn wynebu pwysau ariannol sylweddol ac maent yn cael eu
gorfodi i leihau eu cyllidebau. Credwn y bydd hyn yn
effeithio’n
uniongyrchol ar amseroedd ymateb a gallai roi bywydau pobl mewn
perygl. Gan mai Llywodraeth Cymru sydd â’r
cyfrifoldeb eithaf dros y gwasanaeth tân,
credwn y dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd yn ariannol yn yr un
ffordd ag y gwnaeth gyda’r
GIG, i warchod y gwasanaeth tân
rhag toriadau yn y gyllideb.
Prif ddeisebydd: Jonathan Edwards
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 18 Chwefror 2014
Nifer y llofnodion: 698